Powys Transition Winter School 2015-16

Prospectus 2015/2016

 Permaculture for Transition (2 days)

Date: Saturday 5th / Sunday 6th March 2016

Trainers: Marina O’Connell & Ros Bedlow, Transition Network

Prosbectws 2015/2016

Permaddiwylliant er mwyn Trawsnewid (2 ddiwrnod)

Dyddiad: Dydd Sadwrn 5ed / Sul 6ed Mawrth 2016

Hyfforddwyr: Marina O’Connell a Ros Bedlow, Y Rhwydwaith Trawsnewid

Marina O’Connell
Ros Bedlow

Have you ever wondered what Permaculture has to do with Transition? This weekend should help to define that relationship and how to use permaculture in your transition work. This weekend will be both practical, taking the design principles of permaculture and helping you to see how to apply those to projects and enterprises, as well as taking a look at the theory of permaculture.

Erioed wedi ystyried y cysylltiad rhwng Permaddiwylliant a Thrawsnewid? Bydd y penwythnos yma’n helpu diffinio’r cysylltiad hwnnw a sut i ddefnyddio permaddiwylliant yn eich gwaith trawsnewid.  Bydd y penwythnos yn cynnwys agweddau ymarferol, gan gymryd egwyddorion dylunio permaddiwylliant a’ch helpu ystyried sut i’w defnyddio ar brosiectau a mentrau, yn ogystal ag ystyried theori permaddiwylliant. 

Permaculture is a creative, ethical approach for designing any process so that it flows with rather than against nature. Traditionally applied to land-based projects, modern permaculture embraces all the community driven projects undertaken by the Transition Towns movement. By designing our actions to encompass the ethics of Earth Care, People Care and Fair Shares, we can make our work in Transition more effective and harvest a greater yield of energy and participation from our communities.

Dull o ddylunio creadigol a moesegol yw Permaddiwylliant o ran unrhyw broses, er mwyn cyd-fynd ag yn hytrach na mynd yn erbyn natur. Yn draddodiadol, fe’i defnyddir gyda phrosiectau yn ymwneud â’r tir, mae permaddiwylliant cyfoes yn cynnwys yr holl brosiectau cymunedol sy’n rhan o waith Trefi Trawsnewid. Trwy ddylunio mewn ffordd sy’n cynnwys moeseg Gofalu am y Ddaear, Gofalu am Bobl, a Chyfran Deg, gallwn sicrhau fod ein gwaith Trawsnewid yn fwy effeithiol, ac yn arwain at well canlyniadau o safbwynt ynni a chyfranogiad gan ein cymunedau.

This course covers

  • What is Permaculture?
  • Applying the Permaculture Principles and Ethics to Transition.
  • Using Permaculture “Zones” and “Sectors”.
  • Inner Transition and Permaculture “Zone 00”.
  • Permaculture Design Tools applied to Community Projects.
  • Practical Design project: design your own event or social enterprise.
  • How to Improve communication
  • People Care in your local Initiative

Mae’r cwrs yn cynnwys

  • Beth yw Permaddiwylliant?
  • Defnyddio egwyddorion a moeseg Permaddiwylliant o safbwynt Trawsnewid.
  • Defnyddio “Parthau” a “Sectorau” Permaddiwylliant.
  • Trawsnewid Mewnol a Permaddiwylliant “Parth 00”.
  • Arfau Dylunio Permaddiwylliant a ddefnyddir ar Brosiectau Cymunedol.
  • Prosiect Dylunio Ymarferol: dylunio digwyddiad neu fenter gymdeithasol.
  • Sut i wella Cyfathrebu
  • Gofalu am Bobl yn eich Menter leol

 

 

Lawrlwytho’r Prosbectws Prospectus-download
BOOK HERE 

 

Real World Economics (2 days)  (This course has already taken place)

Date: Saturday 6th / Sunday 7th February 2016

Trainer: Inez Aponte, Transition Network

Real World Economics (2 ddiwrnod)  (Cynhaliwyd y cwrs yma’n barod)

Dyddiad: Dydd Sadwrn 6ed / Sul 7fed Chwefror 2016

Hyfforddwr: Inez Aponte, Y Rhwydwaith Trawsnewid

 

 It’s the end of ‘business as usual’. The time has come to weave together a new social reality in alignment with our values, and to create an economic system that benefits us all – a system that breaks through the false dilemma of austerity and consumption.

Mae’r cyfnod ‘busnes fel arfer’ ar ben. Mae’n bryd creu realiti cymdeithasol newydd sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd, a chreu system economaidd o fudd i bawb – system fydd yn trechu penbleth ffug caledi a defnydd.

This course is one of the products of the Well & Good Project and is designed for community activists and organisers, policy makers, development workers, advocates for the ‘new economy’ and anyone interested in sparking community-led change.

Mae’r cwrs yma wedi deillio o’r Prosiect Iach a Da; fe’i targedir at unigolion sy’n weithgar ac yn trefnu gweithgareddau cymunedol, pobl sy’n gyfrifol am lunio polisïau, gweithwyr datblygu, eiriolwyr ar ran yr ‘economi newydd’ ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn ysgogi newid dan arweiniad y gymuned.

We explore a new approach to creating local economic change based on real life needs, increasing wellbeing, and taking effective action led by community groups.

Byddwn yn ystyried agwedd newydd tuag at newid yr economi lleol a seilir ar anghenion bywyd go iawn, gwella llesiant a gweithredu mewn ffordd effeithiol dan arweiniad grwpiau cymunedol.

The course includes practical tools to engage your community, thought provoking presentations, group discussions and fun interactive exercises that will equip you to be an effective change-maker in your community

Mae’r cwrs yn cynnwys arfau ymarferol i ymgysylltu â’r gymuned, cyflwyniadau diddorol, trafodaethau grŵp ac ymarferion rhyngweithiol ysgafn fydd yn eich paratoi i sicrhau newid yn eich cymuned mewn ffordd effeithiol.

 

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *